Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 74(5)  o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu drwy Orchymyn eithriadau i’r hyn a olygir wrth “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”.

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 19(4) a (5) o’r Mesur. Mae’n diwygio Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (“Gorchymyn 2010”) i estyn yr amgylchiadau pan fydd person, y byddai ei weithgarwch fel arall yn dod o fewn y diffiniad o “gwarchod plant” neu “gofal dydd i blant”, wedi ei eithrio o’r diffiniad hwnnw ac felly nad yw’n ofynnol iddo gofrestru.

Mae erthyglau 3 a 4 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i erthyglau 2 ac 8 o Orchymyn 2010.

Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn eithrio darpariaeth gwasanaeth ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed o’r gofyniad i gofrestru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.Gellir cael copi oddi wrth Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Gorchymyn Drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 74(5) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 19(4) a (5) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([1]).

Yn unol ag adran 74(5) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad cyn iddo gael ei wneud.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.

(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

2. Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010([2]) (“Gorchymyn 2010”) wedi ei ddiwygio yn unol ag erthyglau 3 i 5 o’r Gorchymyn hwn.

3. Yn erthygl 2 o Orchymyn 2010—

(a)     yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng oed”;

(b)     yn lle “yn yr erthyglau canlynol, 3 i 7.” rhodder “yn erthyglau 3 i 7 ac 16 o’r Gorchymyn hwn.”.

4. Yn erthygl 8 o Orchymyn 2010—

(a)     yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng oed”;

(b)     yn lle “yn yr erthyglau canlynol, 9 i 15” rhodder “yn erthyglau 9 i 16 o’r Gorchymyn hwn.”.

5.(1) Ar ôl erthygl 15 o Orchymyn 2010 mewnosoder—

16.—(1) Nid yw person yn darparu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd os ac i’r graddau—

(a)   mai dim ond darparu gwasanaeth ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed y mae’r person; a

(b)  bod unrhyw ofal a ddarperir yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth ieuenctid hwnnw..

(2) Yn yr erthygl hon ystyr “gwasanaeth ieuenctid” (“youth service”) yw gweithgaredd o fath a restrir ym mharagraff (3).

(3) At ddibenion paragraff (2), y mathau o weithgaredd yw’r rhai—

(a)     sy’n annog, yn galluogi neu’n cynorthwyo pobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed i gymryd rhan yn effeithiol:

                           (i)    mewn gweithgareddau hamdden;

                         (ii)    mewn addysg a hyfforddiant;

                       (iii)    ym mywyd eu cymunedau; a

(b)     pan na fo’n ofynnol i’r person ifanc dalu am gymryd rhan mewn gweithgaredd o’r fath neu pan fo’n ofynnol iddo dalu swm nominal yn unig am wneud hynny.”.

 

 

 

Y Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad



([1])           2010 mccc 1.

([2])           O.S. 2010/2839 (Cy. 233).